Tystiolaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer Ymchwiliad y Pwyllgor Menter a Busnes ar Gysylltedd Rhyngwladol drwy Borthladdoedd a Meysydd Awyr ac ar Drydaneiddio Prif Linellau Rheilffyrdd

 

 

Cyflwyniad

 

Mae'r papur tystiolaeth hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor ynghylch trydaneiddio prif linellau.  Mae hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y cynnydd a wnaed mewn perthynas ag argymhellion y Pwyllgor ar borthladdoedd Cymru, sydd i'w gweld yn eu hadroddiad ar Gysylltedd Rhyngwladol, a datblygiadau pellach a wnaed ers cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor.

 

Y sefyllfa ddiweddaraf o ran trydaneiddio prif linellau 

 

Mae'r rheilffyrdd yn ffordd bwysig o sicrhau cysylltedd er mwyn gwasanaethu anghenion busnesau, pobl a chymunedau, gan gludo teithwyr a nwyddau. Nid yw'r cyfrifoldeb dros wasanaethau a seilwaith y rheilffyrdd wedi'i ddatganoli, ond mae swyddogaethau Llywodraeth Cymru wedi cynyddu yn y maes hwn.

 

Bydd trydaneiddio Prif Linell y Great Western o Gaerdydd i Abertawe yn golygu coridor economaidd cryfach rhwng y dwyrain a’r gorllewin ac yn gwella rôl Abertawe fel canolfan economaidd.

 

Ym mis Mawrth 2011 fe wnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ar y pryd gyhoeddi'r penderfyniad i drydaneiddio Prif Linell y Great Western rhwng Llundain a Chaerdydd yn unig. Yn dilyn y cyhoeddiad hwn, bu Llywodraeth Cymru, gan gydweithio â'r Adran Drafnidiaeth a Network Rail, yn datblygu achosion busnes amlinellol ar gyfer trydaneiddio Prif Linell y Great Western cyn belled ag Abertawe, a rhwydwaith Rheilffyrdd y Cymoedd. Roedd yr achosion busnes hyn yn dangos bod angen buddsoddi, ac fe benderfynodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth gynnwys y prosiectau yng nghyfnod buddsoddi 2014-2019.

Trydaneiddio yw’r cam cyntaf tuag at gyflawni gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer seilwaith modern i’r rheilffyrdd ar draws Cymru. Mae’r astudiaethau Metro diweddar yn ystyried trydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd fel man cychwyn hanfodol. Mae’n rhatach gweithredu a chynnal rhwydwaith rheilffyrdd wedi’u trydaneiddio, gan arwain at werth am arian i’r trethdalwr. Bydd teithwyr yn teithio mewn ffordd fwy cynaliadwy yn amgylcheddol, ac yn cael taith gyflymach, dawelach gan arbed hyd at 20% o’i gymharu ag amserlenni presennol.

 

Mae'r achos dros drydaneiddio, a'r trefniadau ariannu sy'n cael eu trafod rhwng Llywodraethau, i'w gweld yn yr ohebiaeth y mae'r Prif Weinidog wedi'i rhyddhau i Aelodau'r Cynulliad.

 

Mae trafodaethau manwl yn parhau gyda Llywodraeth y DU ynghylch trydaneiddio yng Nghymru.

 


Y sefyllfa ddiweddaraf ynghylch yr argymhellion yn yr adroddiad ar Gysylltedd Rhyngwladol drwy borthladdoedd a meysydd awyr Cymru

 

Argymhelliad 9 – Dylai Llywodraeth Cymru barhau i hwyluso ac ymroi i drafodaethau effeithiol gyda Llywodraeth y DU ynghylch y polisi ar borthladdoedd, gan gynnwys trafodaeth ynghylch addasrwydd y setliad datganoli presennol ac unrhyw newidiadau sy'n angenrheidiol er budd Cymru.

 

Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i drafod gyda Llywodraeth y DU ar faterion yn ymwneud â phorthladdoedd Cymru. Yn ddiweddar cynhaliwyd cyfarfod rhwng fy swyddogion a’u swyddogion cyfatebol yn yr Adran Drafnidiaeth er mwyn trafod adolygiad Llywodraeth y DU i’r Porthladdoedd Ymddiriedolaeth ac fe fyddaf yn cyflwyno tystiolaeth ar y mater hwn i Lywodraeth y DU.

 

Hefyd cafodd fy swyddogion gyfarfod gyda chynrychiolwyr Grŵp Porthladdoedd Cymru yr wythnos ddiwethaf ynghylch y mater hwn.

 

Roedd tystiolaeth Llywodraeth Cymru i Ran II o Gomisiwn Silk yn cyflwyno'r achos dros ddatganoli polisi ar borthladdoedd. Cafodd hyn ei dderbyn gan y Comisiwn, ac roedd yn argymhelliad yn eu hail adroddiad.

 

Argymhelliad 10 - Dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi Strategaeth Cludo Nwyddau ddiwygiedig, yn rhoi mwy o bwyslais ar gludo nwyddau ar y rheilffyrdd, erbyn diwedd 2012, a thrafod yr anghenion ar gyfer cludo nwyddau ar y rheilffyrdd yng Nghymru ar gyfer Cyfnod Rheoli nesaf Network Rail.

 

Comisiynwyd adolygiad o Strategaeth Cludo Nwyddau Cymru yn 2012.  Galwyd Grŵp Cludo Nwyddau Cymru at ei gilydd o'r newydd i'w galluogi i roi gwybodaeth i'r broses adolygu.  Bu'r Grŵp yn ystyried canlyniad yr adolygiad ar ddechrau 2013.

 

Yn 2013, sefydlwyd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Gludo Nwyddau er mwyn cynghori ar faterion strategol sy'n effeithio ar gludo nwyddau yng ngoleuni blaenoriaethau ehangach mewn perthynas â datblygu economaidd, ac i ganolbwyntio ar ymyraethau allweddol sy'n angenrheidiol er mwyn datblygu'r Ardaloedd Menter a chanolfannau busnes a masnach yn ehangach.

 

Cyflwynwyd adroddiad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen adeg y Pasg 2014.  Cyhoeddwyd yr adroddiad a gwnaed Datganiad Ysgrifenedig ynghylch yr argymhellion ar 9 Mai 2014:

 http://wales.gov.uk/about/cabinet/cabinetstatements/2014/freight/?skip=1&lang=cy.

http://wales.gov.uk/topics/transport/freight/wales-freight-group/?skip=1&lang=cy

 

Mae'r argymhellion bellach yn cael eu rhoi ar waith. 

 

Argymhelliad 11 - Dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu astudiaethau dichonoldeb ynghylch datblygu morgludiant dros bellteroedd byr a logisteg sy'n canolbwyntio ar borthladdoedd yng Nghymru er mwyn dod o hyd i gyfleoedd posibl yn ogystal â rhwystrau rhag datblygu.  

 

Bu'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Gludo Nwyddau yn ystyried y materion hyn yn eu trafodaethau.  Ni lwyddwyd i ddod o hyd i achos ar gyfer comisiynu astudiaethau pellach ar y pynciau hyn.

 

Fel Llywodraeth rydym yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd morgludiant dros bellteroedd byr, ac fe fyddwn yn parhau i fonitro’r sector hwnnw a chymryd cyngor lle bo angen. Wrth i longau fynd yn fwy o ran maint a galw mewn llai o borthladdoedd, mae’n bosibl y bydd llwybrau dosbarthu neu forgludiant byr yn chwarae rhan fwy o fewn cyd-destun morgludiant yn gyffredinol.

 

Mae porthladdoedd yn hanfodol ar gyfer twf economaidd Cymru. Mae fy swyddogion yn gweithio gyda phorthladdoedd unigol a busnesau eraill i edrych ar y posibiliadau ar gyfer datblygu a gweld lle gall Llywodraeth Cymru helpu. Bydd Llywodraeth Cymru’n ystyried defnyddio pob ysgogiad sydd ar gael i wireddu potensial y porthladdoedd yn llawn.

 

Mae nifer o gyfleoedd i Lywodraeth Cymru fanteisio ar botensial economaidd porthladdoedd, ac rydym yn edrych ar ffyrdd mentrus o gefnogi’r seilwaith a fydd yn galluogi i borthladdoedd Cymru ffynnu.

 

Enghraifft dda yw Dyfrffordd y Ddau Gleddau, sef un o’r porthladdoedd naturiol dyfnaf yn y byd. Mae’n cael ei gydnabod fel canolfan bwysig ar gyfer ynni, gyda’i seilwaith ardderchog a mynediad da at rwydweithiau nwy a thrydan cenedlaethol.

 

Argymhelliad 12 - Dylai Llywodraeth Cymru hyrwyddo buddiannau gweithredwyr porthladdoedd a fferïau Cymru mewn trafodaethau ar archwiliadau ffiniau mewn porthladdoedd a therfynau allyriadau sylffwr yr UE.

 

Nododd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Gludo Nwyddau gyfle tymor byr i farchnata gallu cystadleuol llwybrau morgludiant byr yng ngoleuni'r amserlen hwy ar gyfer lleihau allyriadau sylffwr y diwydiant morgludiant ym Môr Iwerddon, o'i gymharu â llwybrau byr eraill ar y môr. Bydd Llywodraeth Cymru'n edrych am gyfleoedd i helpu gyda gwaith marchnata porthladdoedd Cymru sy'n adlewyrchu eu gallu cystadleuol ar gyfer llwybrau morgludiant byr, er enghraifft drwy gynnwys hynny fel rhan ganolog o'r cynnig sy'n cael ei gyflwyno i gwmnïau perthnasol sy'n mewnfuddsoddi.

 

Mae'r archwiliadau ffiniau mewn porthladdoedd yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd ac yn fater i'r Gweinidog Iechyd a Nawdd Cymdeithasol.

 

Argymhelliad 13 - Dylai Llywodraeth Cymru bwyso ar Lywodraeth y DU i edrych ar yr achos busnes dros drydaneiddio llinellau lliniaru ar brif linell Great Western, er mwyn sicrhau bod modd cludo cynhwysyddion nwyddau rheilffordd yn rhwydd i ac o borthladdoedd Cymru. Dylid annog pob cynnig seilwaith presennol ac yn y dyfodol i gadarnhau eu bod yn ddigon llydan am yr un rheswm.

 

Mae Llywodraeth Cymru'n parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU i drydaneiddio prif linell y Great Western.

 

Mae Llywodraeth Cymru'n trafod gyda Network Rail ynghylch cynigion am brosiect posibl i ledaenu prif linell Great Western.

 

Argymhelliad 14 - Dylai Llywodraeth Cymru bwyso ar yr Adran Drafnidiaeth i gyflwyno prosiectau rheilffyrdd yng Nghymru sy'n gymwys i gael cyllid dan Gyfleuster Cysylltu Ewrop er mwyn i Gymru fanteisio i'r eithaf ar adnoddau sydd ar gael i ddatblygu'r Rhwydwaith Drafnidiaeth Traws-Ewropeaidd. 

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi trafod yn rhagweithiol gyda Llywodraeth y DU ynghylch y fframwaith TEN-T newydd ac yn parhau i edrych ar gyfleoedd i ddatblygu prosiectau i'w hystyried dan Gyfleuster Cysylltu Ewrop.

 

Rwyf wedi trafod y mater gyda Robert Goodwill AS, yr Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Drafnidiaeth, cyn iddo fod yn bresennol mewn cyfarfod anffurfiol o’r Cyngor Trafnidiaeth a oedd yn canolbwyntio ar TEN-T, er mwyn sicrhau ei fod yn gwbl ymwybodol o’r materion o safbwynt Cymru.

 

Argymhelliad 15 -  Dylai Llywodraeth Cymru egluro'i bwriadau ar gyfer Ardaloedd Menter sy'n cynnwys porthladdoedd neu feysydd awyr er mwyn i Gymru fanteisio i'r eithaf ar y fenter hon.

 

Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau amgylchedd busnes a all helpu i gefnogi datblygiad masnachol meysydd awyr a phorthladdoedd a’u swyddogaeth ehangach yn eu heconomïau lleol. Un ffordd o gyflawni hyn yw drwy gysylltu rhai o’n meysydd awyr a’n porthladdoedd â’n Ardaloedd Menter. Rydym wedi datgan yn glir ein bwriad i ddefnyddio’r Ardaloedd Menter fel ffordd o gefnogi ac ysgogi gweithgarwch masnachol a buddsoddiad o amgylch meysydd awyr a phorthladdoedd. Felly er enghraifft:

 

 

 

 

 

 

 

Argymhelliad 16 - Dylai Llywodraeth Cymru adlewyrchu pwysigrwydd strategol porthladdoedd ar gyfer y gadwyn gyflenwi ynni adnewyddadwy o fewn polisïau ynni Cymru, a cheisio sicrhau'r manteision mwyaf posibl i Gymru o gyfleoedd ynni adnewyddadwy ar draws y DU.

 

Mae Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda WEFO i hwyluso datblygiad y sector ynni adnewyddadwy o fewn cynnig ariannu newydd yr UE.

 

Mae Ynni Cymru: Newid Carbon Isel, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2012, yn gosod ein blaenoriaethau ar gyfer newid i economi carbon isel. Hefyd mae blaenoriaethau panel y sector Ynni a’r Amgylchedd yn cydnabod pwysigrwydd strategol porthladdoedd a’u swyddogaeth ganolog ar gyfer ein gallu i newid.

 

Rydym yn cydnabod bod porthladdoedd Cymru, rhai â mynediad dŵr dwfn 24 awr, mewn lle da i ddiwallu anghenion datblygwyr, ac rydym yn gweithio gyda nhw a phartneriaid allweddol eraill i wireddu potensial economaidd llawn y sector cyfan.

 

Dros y blynyddoedd diwethaf daeth Porthladd Mostyn yn ganolfan rhanbarthol bwysig ar gyfer gosod tyrbinau ar y môr a gwaith yn eu cynnal a chadw, gyda phedair fferm wynt fawr yn cael eu hadeiladu o’r porthladd dros y pum mlynedd ddiwethaf.

 

Er gwaethaf y newyddion siomedig ynghylch fferm wynt “Rhiannon” ac “Atlantic Array” ar y môr, rydym yn obeithiol bod cyfleoedd posibl o hyd ar gyfer porthladdoedd Cymru o ran buddsoddiad yn y dyfodol mewn ffermydd gwynt ar y môr, ardaloedd arddangos morol a morlyn llanw Bae Abertawe. Mae fy swyddogion yn gweithio gyda gweithredwyr y porthladd a buddsoddwyr i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd ar gyfer ynni adnewyddadwy sy’n bresennol drwy’r gadwyn gyflenwi.

 

Argymhelliad 17 - Dylai Llywodraeth Cymru annog gweithredwyr porthladdoedd i wella profiad ymwelwyr yn eu cyfleusterau, ac ymgynghori â rhanddeiliaid posibl ynglŷn â'r ffordd orau i ariannu cyfleusterau angori a fydd yn denu llongau pleser.

 

Mae'r ymgynghoriad ynghylch angori yn parhau rhwng Llywodraeth Cymru, Stena ac Anglesey Aluminium (AAM) mewn perthynas â defnyddio'r lanfa yng Nghaergybi yn y dyfodol. Cynhelir cyfarfodydd rheolaidd gyda Stena ynghylch datblygu Abergwaun yn y dyfodol, a chynhelir cyfarfodydd rheolaidd hefyd gydag Aberdaugleddau a Chymdeithas Porthladdoedd Prydain ynghylch unrhyw ddatblygiadau a thaliadau angori yn y dyfodol. 

Mae gwasanaethau ar y lan yn cael eu datblygu gyda mentrau newydd fel darparu cyrsiau Llysgenhadon Almaenig i ddiwallu anghenion teithwyr o'r Almaen ar longau pleser.

 

Mae Llywodraeth Cymru'n cynnal gweithdai ar amserlenni ar draws Cymru i ddatblygu teithiau byr newydd ar y cyd gyda'r trefnwyr lleol. Mae pobl leol o wahanol sectorau'n rhan o'r gweithdai, ynghyd ag amrywiol randdeiliaid allanol, fel atyniadau newydd ac awdurdodau lleol.

 

Er mwyn cynyddu gwybodaeth llongau pleser am gynnyrch Cymru a'r cyfleusterau porthladd sydd ar gael, mae Llywodraeth Cymru'n cynnig ymweliadau cynefino i swyddogion gweithredol y llongau pleser, er mwyn iddynt fedru profi a deall yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig.

Argymhelliad 18 - Dylai Llywodraeth Cymru helpu CruiseCymru, ar y cyd gyda Croeso Cymru, i lunio a gweithredu cynllun marchnata strategol i hyrwyddo'r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig i dwristiaid a phorthladdoedd penodol fel cyrchfannau i weithredwyr llongau pleser rhyngwladol.

 

Mae gan CruiseCymru gynllun marchnata sy'n gysylltiedig â Chynllun Busnes blynyddol Croeso Cymru a'r strategaeth dwristiaeth gyffredinol "Partneriaeth ar gyfer Twf".

 

Mae Llywodraeth Cymru'n helpu gyda gwaith busnes i fusnes ac yn buddsoddi mewn stondin arddangos ar gyfer Cymru yn Seatrade Europe a Cruise Shipping Miami, sy'n denu prif swyddogion gweithredol llongau pleser cwmnïau o'r DU, Ewrop a'r Unol Daleithiau. Mae hyn yn rhoi cyfle i arddangos yr hyn sydd gan Gymru i'w gynnig i longau pleser, a thrafod unrhyw ddatblygiadau newydd yn uniongyrchol gyda'r cwmnïau. Mae'r arddangosfeydd hyn hefyd yn gyfle i weld anghenion diweddaraf y diwydiant llongau pleser byd-eang.

 

Argymhelliad 19 - Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau datblygu cynaliadwy ym mhorthladdoedd a meysydd awyr Cymru drwy Gynlluniau Datblygu Lleol, ac annog awdurdodau lleol i gydweithio lle bo'r datblygiadau hynny yn effeithio ar y rhanbarth ehangach.

 

Rydym yn parhau i graffu ar Gynlluniau Datblygu Lleol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r polisi cynllunio cenedlaethol sy'n cynnwys darpariaethau i ddiogelu hygyrchedd porthladdoedd a meysydd awyr Cymru.

 

Cyhoeddwyd ymchwil ynghylch Gorchmynion Datblygu Lleol, ac mae'r Is-adran Gynllunio wedi cynnal seminarau i godi ymwybyddiaeth amdanynt.

 

Crynodeb

 

Mae gweithgarwch Llywodraeth Cymru ar borthladdoedd a thrydaneiddio yn rhan o ddull gweithredu strategol a chyson ehangach mewn perthynas â datblygu economaidd a seilwaith trafnidiaeth. Mae'n amlwg ei bod yn fuddiol i Lywodraeth Cymru gefnogi gwelliannau i seilwaith trafnidiaeth er mwyn cynhyrchu manteision economaidd ehangach a gwasanaethu buddiannau Cymru.

 

Bydd Gweinidogion Cymru'n parhau i geisio cael pwerau ychwanegol lle bo'n berthnasol er mwyn sicrhau bod pob arf posibl yn medru cael eu defnyddio er mwyn i Lywodraeth Cymru gael yr effaith fwyaf bosibl.